Cleifion arthritis llidiol cynnar yn aros yn rhy hir am gymorth arbenigol
11 Hydref 2019
Yr Archwiliad Cenedlaethol o Arthritis Llidiol Cynnar, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Rhewmatoleg Prydain (BSR), yw'r astudiaeth fwyaf a mwyaf cynhwysfawr i'r cyflwr. Ei nod yw gwella gofal a thriniaeth cleifion ac mae wedi cofnodi data dros 20,600 o gleifion gyda 98% o ymddiriedolaethau a byrddau iechyd yng Nghymru a Lloegr yn cymryd rhan.
Caiff data ei fesur yn erbyn safonau ansawdd NICE. Mae'r rhain yn tynnu sylw at feysydd allweddol i helpu gwasanaethau i wella, megis atgyfeiriad prydlon gan feddyg teulu, gweld arbenigwr o fewn tair wythnos a chael triniaeth.
Mae'r adroddiad yn datgelu mai dim ond 41% o gleifion a gyrhaeddodd y safon 3 diwrnod ar gyfer atgyfeiriad gan eu meddyg teulu a dim ond 38% a atgyfeiriwyd at uned rhewmatoleg a welwyd o fewn y canllawiau 3 wythnos. Yr amser aros cyfartalog ar gyfer yr apwyntiad cyntaf oedd 28 diwrnod.
Dywedodd Ali Rivett, Prif Weithredwr Cymdeithas Rhewmatoleg Prydain: “Gall diagnosis prydlon o arthritis llidiol cynnar wneud y gwahaniaeth rhwng datblygu anableddau gydol oes neu fynd i gyfnod o welliant mewn gwirionedd.
“Fel y sefydliad blaenllaw sy’n cynrychioli gweithwyr proffesiynol rhewmatoleg ledled y DU, rydym yn gwybod pa mor galed maen nhw’n gweithio i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sydd angen eu cymorth. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy fel bod pob uned yn cyrraedd y safonau.”
Dywedodd BSR fod llawer o resymau’n achosi’r problemau hyn, ond bod prinder staff yn ffactor.
Mae Ali yn ychwanegu: “Does dim dwywaith bod prinder staff yn rhan o’r broblem ac yn cyfrannu at amseroedd aros hirach. Nid oes gan y GIG ddigon o staff rhewmatoleg ac mae rhai unedau dan bwysau.”
Ar nodyn cadarnhaol, mae BSR yn dweud bod yr archwiliad yn helpu i ddangos gwir effaith arthritis llidiol cynnar ar fywydau pobl a phwysigrwydd triniaeth brydlon; roedd cleifion a gafodd driniaeth briodol o fewn tri mis yn llawer mwy tebygol o fynd yn ôl i'r gwaith ac yn llai tebygol o fod yn isel eu hysbryd ac yn bryderus.
Mae data'r archwiliad hefyd yn dangos amrywiad sylweddol ar draws Cymru a Lloegr ac yn nodi 51 o ymddiriedolaethau neu fyrddau iechyd sy'n perfformio cystal â'r gweddill. Mae'r 'allgleifion' hyn yn cael eu hannog i ddefnyddio eu data i lobïo am adnoddau ychwanegol yn ogystal ag edrych ar sut y gellir gwella prosesau.
Mae Ali yn egluro: “Mae ein harchwiliad yn chwarae rhan hanfodol wrth nodi ble mae’r problemau. Nid adnoddau yn unig sy’n bwysig ond hefyd unedau sy’n gwneud gwell defnydd o’r adnoddau sydd ganddyn nhw. Gall ailgyflunio gwasanaethau a rhannu dysgu ymhlith unedau wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae'r adroddiad yn dangos bod llawer o enghreifftiau da ledled Cymru a Lloegr lle mae unedau'n perfformio'n dda, ac mae hyrwyddwyr rhanbarthol wedi'u sefydlu i helpu eraill i ddysgu o'u harfer da.
Dywed Ali: “Er na fydd pethau’n newid dros nos mae gwelliannau’n cael eu gwneud fel y gall pob uned gyrraedd y safonau. Mae gwneud yr archwiliad hwn yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, yn ei roi ar radar pobl ac yn annog ymddiriedolaethau i ymdrechu am fwy. Byddwn yn gweithio’n galed gyda’r gymuned rhewmatoleg yn y misoedd nesaf ac wedi datblygu Cynllun Gwella Ansawdd i ysgogi newid go iawn ledled y DU.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rheumatology.org.uk/neia-audit