Lansiwyd ymgyrch i helpu pobl i arbed arian ar bresgripsiynau

19 Hydref 2023

Nod ymgyrch newydd gan GIG Lloegr yw codi ymwybyddiaeth o gynlluniau arbed presgripsiynau.

Bydd Tystysgrif Rhagdalu Presgripsiwn yn arbed arian i bobl os ydynt yn talu am fwy na thri eitem mewn tri mis, neu 11 eitem mewn 12 mis. Mae'r dystysgrif yn cwmpasu pob presgripsiwn GIG am bris penodol wedi'i dalu ymlaen llaw, y gellir ei wasgaru hefyd dros 10 taliad debyd uniongyrchol.

Gallai pobl ar incwm isel fod â hawl i gymorth gyda chostau neu hyd yn oed bresgripsiynau am ddim drwy'r cynllun incwm isel, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Mae'r ymgyrch yn targedu'n benodol y rhai sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor yn ogystal â phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gan fod data'n dangos bod y poblogaethau hyn yn derbyn llawer mwy o eitemau presgripsiwn na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig.

Am ragor o wybodaeth am Dystysgrifau Rhagdalu Presgripsiwn ewch i: www.nhsbsa.nhs.uk/ppc  

Gwiriwr cymhwysedd cynllun incwm isel: www.nhsbsa.nhs.uk/check