Wythnos Ymwybyddiaeth RA 2022 (12-17 Medi)
25 Awst 2022

Mae Cymdeithas Genedlaethol Arthritis Rwmatoid (NRAS) yn falch o gyhoeddi lansio Wythnos Ymwybyddiaeth Arthritis Rwmatoid (RAAW) 2022.
Dechreuodd NRAS RAAW yn 2013 gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr drwy addysgu a hysbysu ffrindiau, teulu, cyflogwyr a'r boblogaeth gyffredinol am beth yw arthritis gwynegol (RA) a'r effaith ddinistriol y gall ei chael ar fywydau pobl.
Mae RA yn wahanol i osteoarthritis (OA) gan y gall daro ar unrhyw oedran dros 16 oed. Mae'n glefyd hunanimiwn, sy'n ffactor gwahaniaethol allweddol i OA ac yn golygu, yn ogystal â chymalau, y gall effeithio ar organau mewnol fel y galon, yr ysgyfaint a'r llygaid. Mae canlyniadau difrifol iawn i ddiagnosis hwyr neu ddiffyg triniaeth briodol ac amserol wedi'i thargedu.
Ar gyfer RAAW 2022, y thema yw #RAFactOrFiction, gan ganolbwyntio ar chwalu'r mythau sy'n amgylchynu'r cyflwr anweledig hwn sydd ar hyn o bryd yn anwelladwy. Mae cymuned RA, pobl sy'n byw gydag RA, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol iawn o'r camsyniadau y gall pobl eraill eu cael ynghylch arthritis llidiol, ac rydym am ledaenu ymwybyddiaeth i godi proffil y cyflwr hwn gyda chwis 'Ffaith neu Ffuglen' y gall pawb gymryd rhan ynddo.
Helpwch ni i ledaenu ymwybyddiaeth o'r #RAFactOrFiction drwy gymryd rhan yn y cwis a chael cyfle i ennill un o 10 gwobr; rhannwch ef gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, a chael pobl i siarad am y mythau sy'n ymwneud ag RA. Gobeithiwn y bydd pobl yn dysgu gwybodaeth hanfodol a fydd yn eu helpu i ddeall y cyflwr cudd hwn. Ochr yn ochr â'r ymgyrch hon, byddwn hefyd yn postio fideos ar Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn a bydd rhannu'r rhain hefyd yn helpu i ledaenu'r gair am RAAW 2022.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.