Diweddarwyd: Rhaglen brechlyn atgyfnerthu Covid Hydref 2023
30 Awst 2023

Mae llywodraeth y DU wedi derbyn cyngor gan y Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), sy'n cynghori, ar gyfer rhaglen atgyfnerthu hydref 2023, y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i'r grwpiau canlynol o 11 Medi:
- preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- pob oedolyn 65 oed a throsodd
- pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhablau 3 a 4 o bennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd
- gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- pobl rhwng 12 a 64 oed sy'n gysylltiadau cartref, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, i bobl ag imiwnedd isel
- pobl rhwng 16 a 64 oed sy'n ofalwyr, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Gellir gweld manylion llawn ar y dolenni isod:
Am wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 ac am amrywiadau, cyfeiriwch at wefan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA):