Adnodd

Canfyddiadau Astudiaeth COVIDENCE UK

Ffactorau risg COVID-19, a nodwyd o astudiaeth COVIDENCE UK

Ebrill 2021

O fis Mai 2020 i fis Chwefror 2021, mae dros 15,00 o gyfranogwyr wedi rhoi gwybodaeth drwy holiadur sylfaenol ar-lein a holiaduron misol pellach, gyda'r nod o ddeall mwy am y duedd i ddatblygu COVID-19.

Mae eisoes yn hysbys bod y rhai sydd mewn perygl o ddatblygu achosion mwy difrifol o COVID-19 yn cynnwys y boblogaeth hŷn, rhyw gwrywaidd, pobl â mynegai màs y corff (BMI) uchel, ethnigrwydd du neu Asiaidd a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol. Nid yw'n sicr a oedd y ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar y duedd i ddal y firws yn y lle cyntaf.

Daliodd 446 o gyfranogwyr (2.9%) COVID-19 yn ystod y cyfnod astudio naw mis. Ymhlith canfyddiadau'r astudiaeth roedd bod ethnigrwydd Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn cynyddu'r risgiau o ddatblygu COVID-19, yn ogystal â chael mynegai màs y corff (BMI) uwch. 

Mae modd darllen adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r astudiaeth yma.

Mae yna hefyd weminar yn trafod canfyddiadau'r adroddiad, y gellir ei wylio yma.