Adnodd

Sgwrs Galar

Rydyn ni'n gwybod na all neb ddeall yn union sut beth yw eich colled i chi. Ond rydyn ni'n deall ei bod hi weithiau'n haws siarad â rhywun y tu allan i'ch ffrindiau a'ch teulu am alar ac effaith profedigaeth ar eich bywyd. 

Mae ein ffrindiau yn Much Loved, sydd hefyd yn rheoli ein tudalennau Teyrnged ar-lein, wedi partneru â Professional Help Limited i gynnig gwasanaeth ar-lein i gefnogi pobl sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar. 

Mae GriefChat yn wasanaeth sgwrsio byw sy'n darparu cefnogaeth emosiynol, mynediad at gwnselwyr galar hyfforddedig ac atgyfeiriadau i wasanaethau galar arbenigol eraill. Byddant yn gwrando ar eich stori, yn archwilio sut mae eich galar yn effeithio arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallech fod ei hangen. 

Gallwch aros yn ddienw neu roi eich enw, beth bynnag a fynnwch. Mae GriefChat yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae ar agor 9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yna drwy e-bost y tu allan i'r oriau hyn i info@griefchat.co.uk