Lleihau'r risg o grwpiau agored i niwed yn dal listeriosis
01 Awst 2023

Canfu'r asesiad risg, er bod y risg o ddal listeriosis mewn unigolion risg uwch o bysgod wedi'u mygu'n oer yn isel, bod difrifoldeb y salwch yn uchel, gyda'r potensial am salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty, a marwolaeth ymhlith grwpiau risg uwch. O ganlyniad, rydym yn cynghori menywod beichiog a'r rhai â systemau imiwnedd gwan (pobl â chyflyrau sylfaenol penodol er enghraifft canser, diabetes, clefyd yr afu a'r arennau), neu unrhyw un sy'n cymryd meddyginiaethau a all wanhau'r system imiwnedd i osgoi bwyta cynhyrchion pysgod wedi'u mygu'n oer neu wedi'u halltu'n barod i'w bwyta.
Gan fod y risg o salwch difrifol o listeriosis yn cynyddu gydag oedran, dylai pobl hŷn hefyd fod yn ymwybodol o'r risg o fwyta pysgod wedi'u mygu'n oer ac wedi'u halltu ac ystyried cymryd camau i leihau haint listeria. Mae'r camau hyn yn cynnwys: bwyta bwydydd cyn y dyddiadau defnyddio erbyn, sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gadw yn yr oergell (islaw 5°C) neu ddefnyddio dewisiadau amgen mwy diogel a fydd yn cael eu hamlinellu yn adran Listeria ein gwefan unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi.
Mae'r cyngor wedi'i dargedu hwn yn cydnabod y bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heffeithio gan listeriosis yn cael symptomau gastroenteritis ysgafn sy'n tawelu o fewn ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, mae rhai unigolion mewn mwy o berygl o salwch difrifol.
Pysgod mwg oer a dewisiadau amgen
Os yw'r pysgod mwg oer wedi'i goginio'n drylwyr, bydd yn ddiogel i'w fwyta, a gellir ei weini ar unwaith, neu ei weini'n oer ar ôl cael ei oeri yn yr oergell.
Byddwn yn cynghori, os yw pobl yn dymuno ychwanegu pysgod mwg oer at seigiau fel pasta wedi'i goginio neu wyau wedi'u sgramblo, eu bod yn ei goginio'n drylwyr yn gyntaf. Mae hyn oherwydd na fydd ei gynhesu'n unig wrth baratoi pryd o fwyd yn cynhesu'r pysgod i dymheredd digon uchel i ladd unrhyw listeria sy'n bresennol.
Nid yw pysgod 'mwg oer' fel eog neu frithyll mwg, a physgod wedi'u halltu fel gravlax, yn cael eu coginio'n llawn yn ystod y broses gynhyrchu i ladd unrhyw listeria a allai fod yn bresennol, ac felly maent yn peri risg uwch o haint. Fel arfer, labelir pysgod 'mwg oer' fel pysgod 'mwg' ar y pecynnu neu gellir eu gwerthu fel sleisys eog neu frithyll mwg parod i'w bwyta i'w bwyta'n oer heb baratoi pellach. Gellir dod o hyd iddynt mewn swshi hefyd.
Gellir bwyta cynhyrchion pysgod mwg eraill yn ddiogel, gan gynnwys pysgod mwg tun (yn syth o'r tun), ffiledi pysgod wedi'u coginio'n drylwyr (ffres neu wedi'u rhewi) a physgod mwg wedi'u coginio (e.e. fel rhan o gratin). Caiff y cynhyrchion hyn eu cynhesu i dymheredd uchel naill ai yn ystod y broses gynhyrchu neu'r coginio, gan ladd unrhyw listeria a allai fod yn bresennol.
Os hoffech ddarllen yr adroddiad llawn cliciwch yma, neu am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ASB.