Materion Gwaed
Canllaw i'r profion gwaed a ddefnyddir wrth reoli arthritis gwynegol ac arthritis idiopathig ieuenctid mewn oedolion.
Mae profion gwaed yn rhan bwysig o ddiagnosis a monitro arthritis gwynegol (RA), ac arthritis idiopathig ieuenctid (JIA), ond gall y gwahanol brofion, talfyriadau a rhifau fod yn ddryslyd, ac efallai na fydd bob amser yn glir i chi beth yw pwrpas pob prawf, pam ei fod yn bwysig a beth mae'r canlyniadau'n ei olygu.
Rydym wedi creu'r adnodd hwn oherwydd ein bod yn credu'n gryf bod cael dealltwriaeth dda o'ch profion gwaed yn bwysig i'ch helpu i reoli'ch cyflwr a gwella canlyniadau.