Adnodd

Canfyddiadau Astudiaeth COVIDENCE UK

Ffactorau risg COVID-19, a nodwyd o astudiaeth COVIDENCE UK

Argraffu

Ebrill 2021

Rhwng mis Mai 2020 a mis Chwefror 2021, mae dros 15,00 o gyfranogwyr wedi rhoi gwybodaeth trwy holiadur sylfaenol ar-lein a holiaduron misol pellach, gyda’r nod o ddeall mwy am dueddiad ar gyfer datblygu COVID-19.

Mae'n hysbys eisoes bod y rhai sydd mewn perygl o ddatblygu achosion mwy difrifol o COVID-19 yn cynnwys y boblogaeth hŷn, rhyw gwrywaidd, pobl â mynegai màs y corff uchel (BMI), ethnigrwydd du neu Asiaidd a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol. Roedd yn ansicr a oedd y ffactorau hyn hefyd wedi dylanwadu ar y tueddiad i ddal y firws yn y lle cyntaf.

Daliodd 446 o gyfranogwyr (2.9%) COVID-19 yn ystod y cyfnod astudio naw mis. Ymhlith canfyddiadau’r astudiaeth roedd bod ethnigrwydd Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn cynyddu’r risgiau o ddatblygu COVID-19, yn ogystal â chael mynegai màs y corff uwch (BMI). 

Gellir darllen adroddiad llawn ar ganfyddiadau'r astudiaeth yma .

Mae gweminar hefyd yn trafod canfyddiadau'r adroddiad, y gellir ei weld yma .