COVID-19 Cyflogaeth a budd-daliadau
Mae gan lawer o bobl bryderon ynghylch gwaith, rheolau ffyrlo a derbyn budd-daliadau. Gan fod y rhain yn gallu newid ac yn dibynnu ar ragofalon haen eich ardal, byddwn yn eich cyfeirio at y cyngor cenedlaethol, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Gwaith
Mae’r wybodaeth swyddogol ddiweddaraf am COVID-19, gan gynnwys cymorth gyda gwaith, i’w gweld yma:
Mae’r cyngor diweddaraf i gyflogwyr a busnesau hefyd ar gael yma :
F urlough a budd-daliadau
Mae ffyrlo wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2021, a gall hyd yn oed y rhai nad ydynt wedi bod ar ffyrlo o'r blaen fod yn gymwys bellach. Am y wybodaeth ddiweddaraf, gwiriwch yma :
Mae’n bosibl y bydd tâl salwch statudol ar gael os nad ydych yn gallu gweithio ac nad oes gennych fynediad i’r cynllun ffyrlo. Cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys a sut i hawlio:
M y hawliau
Os teimlwch nad ydych wedi cael eich trin yn deg neu os ydych yn gyflogwr sydd angen arweiniad i gefnogi eu gweithlu cysylltwch ag ACAS yn:
Neu www.gov.uk/employment-status
Dw i eisiau gweithio
Yn y llyfryn hwn byddwch yn dod o hyd i gyngor a gwybodaeth gyfredol a chywir, i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa help y gallwch ddisgwyl ei gael a’ch bod yn cael y cymorth i’ch helpu i barhau i weithio ac i leihau’r effaith y gallai gwaith ei chael ar eich RA ac i'r gwrthwyneb.
Canllaw cyflogwyr i arthritis gwynegol
Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am arthritis gwynegol (RA), sut y gall effeithio ar bobl yn y gwaith, y math o anawsterau y gall eu hachosi a sut y gellir eu goresgyn. Mae hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ble y gall cyflogwyr fynd i gael cymorth a chyngor ar y gyfraith sy'n ymwneud ag anabledd, ar arfer gorau ac ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer cyflogeion yn y gwaith.