Sgwrs Galar
Gwyddom na all neb ddeall yn union sut deimlad yw eich colled i chi. Ond rydym yn deall ei bod weithiau'n haws siarad â rhywun y tu allan i'ch ffrindiau a'ch teulu am alar ac effaith profedigaeth ar eich bywyd.

Mae ein ffrindiau yn Much Loved, sydd hefyd yn rheoli ein tudalennau Teyrnged ar-lein wedi ymuno â Professional Help Limited i gynnig gwasanaeth ar-lein i gefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Mae GriefChat yn wasanaeth sgwrsio byw sy’n darparu cymorth emosiynol, mynediad at gwnselwyr profedigaeth hyfforddedig ac atgyfeirio i wasanaethau profedigaeth arbenigol eraill. Byddant yn gwrando ar eich stori, yn archwilio sut mae eich galar yn effeithio arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch.
Gallwch aros yn ddienw neu roi eich enw, pa un bynnag sydd orau gennych. Mae GriefChat yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac mae ar agor 9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yna drwy e-bost y tu allan i’r oriau hyn at info@griefchat.co.uk