Adnodd

Rydw i eisiau gweithio

Yn y llyfryn hwn fe welwch gyngor a gwybodaeth gyfoes a chywir, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod pa gymorth y gallwch ddisgwyl ei dderbyn a bod gennych y gefnogaeth i'ch helpu i barhau i weithio ac i leihau'r effaith y gallai gwaith ei chael ar eich RA ac i'r gwrthwyneb.

Mae'r llyfryn hwn hefyd yn trafod yr opsiynau ar gyfer ailhyfforddi neu symud i wahanol fathau o swyddi o fewn sefydliad. Gall y rhain fod yn werth eu hystyried os ydych chi'n teimlo y gallech chi gael anawsterau i barhau yn eich rôl bresennol, oherwydd cyfyngiadau corfforol er enghraifft.