Gweminar: Cael diagnosis o Arthritis Gwynegol
Recordiwyd Mawrth 2019
Y siaradwr arbenigol ar gyfer y weminar hon oedd Dr James Galloway, Uwch Ddarlithydd a Rhiwmatolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Coleg y Brenin yn Llundain a Chynghorydd Meddygol NRAS. Cyflwynodd Dr Galloway ddiweddariad ar symptomau cynnar arthritis gwynegol, a sut y gall rhiwmatolegydd arbenigol wneud diagnosis o'r cyflwr. Bydd y sesiwn yn ymdrin â pha fath o ymchwiliadau a wneir fel arfer yn ogystal â'r mathau o driniaethau a ddefnyddir.