Gweminar: Pwysigrwydd gweithgaredd corfforol mewn arthritis gwynegol
Recordiwyd Medi 2018
Y siaradwr arbenigol ar gyfer y weminar hon oedd yr Athro George Metsios, Athro mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol, Cyfadran Addysg a Lles Iechyd ym Mhrifysgol Wolverhampton. Ar y weminar hon ymdriniodd yr Athro Metsios â sut y gellir defnyddio gweithgaredd corfforol a/neu ymarfer corff i wella symptomau afiechyd a pharamedrau iechyd mewn cleifion ag arthritis gwynegol neu ymfflamychol a'r camau y gall pobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn eu cymryd i helpu eu hunain.