Gweminar: Pam mae cael atlas cellog (map) o'r cymal yn bwysig i bobl ag arthritis gwynegol?
Recordiwyd Mehefin 2019
Y siaradwr arbenigol ar gyfer y weminar hon oedd yr Athro Chris Buckley, Athro Kennedy mewn Rhewmatoleg Gyfieithiadol ym Mhrifysgolion Birmingham a Rhydychen a hefyd Cyfarwyddwr Ymchwil Glinigol yn Sefydliad Kennedy mewn Rhewmatoleg yn Rhydychen. Mae'n arwain y Rhaglen Cyflymu Therapi Arthritis (A-TAP) sy'n anelu at gyflwyno "patholeg haenedig" mewn ystod o glefydau llidiol a gyfryngir gan imiwnedd, fel arthritis gwynegol, er mwyn dewis y dangosydd clefyd cywir ar gyfer y cyffur cywir. Yn y weminar hon, siaradodd yr Athro Buckley am brosiect yr Atlas Cymalau, a sut y bydd yn helpu i gyflymu ymchwiliadau parhaus i achosion cellog arthritis, trwy ddarparu diffiniad "map google" o'r cymal.