Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gynyddu maint y testun ar ein gwefan. Bydd sut y gwnewch hyn yn dibynnu ar y canlynol:
-
- Pa system weithredu ydych chi'n ei defnyddio (ee Windows, Mac, iOS, Android)?
-
- Ar gyfer pa un o'r canlynol ydych chi am gynyddu maint y ffont?
-
- Pob gwefan rydych chi'n ymweld â hi ar y ddyfais hon
I newid maint y ffont dros dro ar gyfer tudalen we
Y ffordd hawsaf o gynyddu maint y testun wrth ddarllen tudalen we neu ddogfen yw ei newid dros dro. I wneud hyn:
Defnyddwyr Windows: Daliwch y botwm rheoli (ctrl) i lawr a chliciwch ar y botymau plws (+) neu minws (-) i gynyddu neu leihau maint y ffont.
Defnyddwyr Mac: Daliwch y botwm cmd i lawr (⌘) a chliciwch ar y botymau plws (+) neu minws (-) i gynyddu neu leihau maint y ffont.
I newid maint y ffont ar gyfer gwefannau penodol yn barhaol
Os oes gwefannau penodol yr hoffech chi newid maint y ffont ar eu cyfer, gellir newid hyn yng ngosodiadau eich porwr rhyngrwyd. I ddarganfod sut i wneud hyn ar gyfer y porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio, chwiliwch y canlynol ar-lein:
'Sut i newid maint y ffont ar gyfer gwefannau penodol ar [rhowch enw'r porwr rhyngrwyd, ee Chrome, Safari, Edge, Firefox).'
I newid maint y ffont yn barhaol ar gyfer eich porwr rhyngrwyd
Gallwch hefyd newid maint y ffont ar gyfer unrhyw dudalen we y byddwch yn ymweld â hi yn eich porwr rhyngrwyd. I ddarganfod sut, chwiliwch y canlynol ar-lein:
'Sut i newid maint y ffont yn [rhowch enw'r porwr rhyngrwyd, ee Chrome, Safari, Edge, Firefox).'
Gallwch fynd yn ôl i'ch gosodiadau unrhyw bryd i wrthdroi'r newidiadau hyn os nad ydynt yn gweithio i chi.
Sylwch, nid yw pob gwefan wedi'i sefydlu i chi allu cynyddu maint y ffont arno (er y gallwch chi ar ein gwefan).
Cynyddu maint y ffont ar gyfer popeth ar eich dyfais
Gallwch hefyd gynyddu maint y ffont ar gyfer unrhyw beth rydych chi'n ei ddefnyddio ar eich dyfais, trwy osodiadau'r ddyfais.
I ddarganfod sut, chwiliwch y canlynol ar-lein:
'Sut i gynyddu maint y ffont ar gyfer fy nyfais [rhowch enw'r ddyfais yma]'